Croeso

Mae Mawrth yr 8fed bob blwyddyn yn cael ei gydnabod fel Diwrnod Rhyngwladol Menywod pan fo cyfle i bobl ar draws y byd ddathlu cyfraniad menywod i wahanol feysydd. Nod y wefan hon yw rhoi gogwydd Cymraeg a Chymreig ar y dathliadau hynny ac i fod yn adnodd parhaol a hyfyw er mwyn tynnu sylw…Continue Reading Croeso

[:cy]Trannoeth urddo Trump[:]

[:cy]Ai wos ddêr ond welais i ddim mo Max Boyce yno chwaith. Wel roedd rhaid bod yno on’d oedd, ac roedd rhaid corlannu merched y teulu at ei gilydd yn famau a merched, chwiorydd, nithoedd, cyfnitherod ac wyresau.     Ar Facebook y gwelais i sôn amdano’n gyntaf a Facebook sydd biau’r digwyddiad hwn drwyddo…Continue Reading [:cy]Trannoeth urddo Trump[:]

[:cy]2016 – blwyddyn y merched?[:]

[:cy] Mared Ifan, gohebydd y Cynulliad Golwg sy’n edrych ar wleidyddion benywaidd ar drothwy Etholiad yr UD… Gyda Brexit, Trump a llanast llwyr y Blaid Lafur, mae 2016 wedi bod yn flwyddyn ryfedd, gyffrous a heriol, yn enwedig i sawl un yn y ‘sefydliad’. Gallwch ddadlau hefyd mai blwyddyn i’r merched oedd hi, gyda dynes…Continue Reading [:cy]2016 – blwyddyn y merched?[:]

Llywydd y Fenni yn bwrw golwg ar Fenywod a’r Eisteddfod

Mae Dr Elin Jones, Llywydd Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau wedi dod o hyd i funud sbȃr i  olrhain cysylltiad menywod ȃ’r Ŵyl. Mae’n gant a thri o flynyddoedd ers i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â’r Fenni, ac roedd hynny ar adeg o derfysg ac ansicrwydd gwleidyddol – ac Eisteddfodol. Bu nifer mawr o streiciau a therfysgoedd…Continue Reading Llywydd y Fenni yn bwrw golwg ar Fenywod a’r Eisteddfod

Her yr Hinsawdd i Siwan

Wel dyma ni, fy nghynnig cyntaf ar ysgrifennu blog. Hyd yma, dwi wedi gwneud fy ngorau glas i osgoi pethau o’r fath! Fel arfer ysgrifennu gwyddonol, gwrthrychol sy’n seiliedig ar ddadansoddi a dehongli data yw fy myd. Ond rwyn ysgrifennu’r blog yma i gydfynd â lansiad a chychwyn cyfres newydd ar S4C, Her yr Hinsawdd…Continue Reading Her yr Hinsawdd i Siwan

Amgueddfa Newydd am Fenywod – Nodiadau ar Daith i Lundain ac yn Ôl gan Sara Huws

Syffrajetiaid Caerdydd a ‘Jack the Ripper’   Er nad yw hi’n siwrne esmwyth bob tro, mae’r trip gartref o orsaf Paddington i Gaerdydd yn arbennig. Os taw gwell Cymro, Cymro oddi cartre – wedyn gwell Cymraes ar ei ffordd gatre, greda i. Rywle rhwng Reading a Swindon mae hudlath (ahem, neu ddiflastod) yn gweu’i ffordd…Continue Reading Amgueddfa Newydd am Fenywod – Nodiadau ar Daith i Lundain ac yn Ôl gan Sara Huws

Golygydd y gyfres ‘Mamwlad’ Catrin Evans yn blogio!

“Catching up with Mamwlad on S4C. It’s more insightful and purposeful than much of recent history on tv “ Dwi’n dal yn gallu cofio’r wefr o ddarllen y trydariad uchod gan yr hanesydd Dr Martin Johnes o Brifysgol Abertawe.Ymateb oedd e i’r gyfres gyntaf o Mamwlad gyda Ffion Hague, cyfres hanes menywod sy’n cael ei…Continue Reading Golygydd y gyfres ‘Mamwlad’ Catrin Evans yn blogio!